Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Ionawr 2020
Amser:
08.30 -
08.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Anfonodd Caroline Jones ei hymddiheuriadau, a dirprwyodd David Rowlands ar ei rhan.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau a anfonwyd rhwng y Trefnydd a'r Llywydd, wrth i’r Llywydd gytuno ar gais i ganiatáu i Gyfnod 4 o Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) gael ei gynnal yn syth ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3 ar 14 Ionawr 2020.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 7 Ionawr 2020 –
·
Dadl: Adolygiad Blynyddol o Gydraddoldeb a Hawliau
Dynol 2018/19 (60 munud) - wedi’i
ohirio
· Cynnig i Gydsynio Offeryn Statudol Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019 (15 munud)
· Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) (15 munud)
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2020 –
· Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 (15 munud)
· Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (15 munud) - tynnwyd yn ôl
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 29 Ionawr 2020 –
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Nodwyd y llythyr gan y Rheolwyr Busnes, a chytunwyd eto i edrych ar yr adeg sydd ar gael ar gyfer cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 fel rhan o'u gwaith etifeddiaeth.
LCM ar Fil yr UE (Ymadael)
Hysbysodd y Trefnydd y Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE (Ymadael). Mae gofynion amserlen Seneddol y Bil yn golygu y bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig ddydd Mawrth 21 Ionawr fan bellaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r LCM at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mai dydd Gwener 17 Ionawr fyddai’r dyddiad cau ar gyfer adrodd.
Papurau sydd ar ddod i’r Pwyllgor Busnes
Atgoffwyd y Rheolwyr Busnes gan y Llywydd y bydd yr ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy ar agor tan 13 Ionawr, a bydd ymatebion yn cael eu crynhoi mewn papur i'w drafod yn y cyfarfod ar 21 Ionawr. Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor Busnes yn edrych eto ar y papur ar aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion Pwyllgorau a chydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau, gan gynnwys system d'Hondt ar 28 Ionawr. Mae'r rhain wythnos yn hwyrach na'r hyn a ddywedwyd o'r blaen, er mwyn caniatáu rhagor o amser ar gyfer yr ymgynghoriad ar Bleidleisio drwy Ddirprwy.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Clerc ddarganfod beth yw’r sefyllfa o ran adolygu'r weithdrefn yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd i fod i gael ei wneud gan y Pwyllgor Gweithdrefnau yno.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor hefyd nad oedd hi'n gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, ac y byddai'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio yn ei habsenoldeb.